Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About Robin Millar
  • News
  • Lobbying & Campaigns
  • In Parliament
  • Contact
Site logo

Y Gwrthdaro yn Syria -Idlib

  • Tweet

Mae'r sefyllfa ddyngarol yn Idlib yn ddifrifol dros ben. Rwyf yn bryderus iawn am y gweithredu milwrol parhaus gan Rwsia a'r gyfundrefn Syriaidd yn Idlib, gan gynnwys ymosodiadau sydd wedi taro'r isadeiledd cyhoeddus. Dylai pob ochr barchu'r parth diogel a’r cadoediad y cytunwyd arno, gan gadw at eu rhwymedigaethau o dan gyfraith ddyngarol ryngwladol a gweithredu i ddiogelu sifiliaid.

Yn aml mae swyddogion yn trafod y trais yn erbyn sifiliaid yn Idlib gyda Rwsia a Tsieina yng nghyfarfodydd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Yn ddiweddar, bu'r DU yn ymwneud â thrafodaethau testunol gyda Rwsia a Tsieina ac aelodau eraill o'r Cyngor Diogelwch ar benderfyniad drafft ynglŷn ag Idlib a gafodd ei nacáu, yn anffodus, gan Rwsia a Tsieina ar 19 Medi 2019.

Rwy’n gwybod bod yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DFID) yn parhau i fonitro'r sefyllfa yng Ngogledd Orllewin Syria yn agos, ac mae'r Gweinidogion yn pryderu am effaith y cynnydd mewn trais ar sifiliaid. Mae cymorth DFID yn parhau i ddarparu cysgod, dŵr glân a glanweithdra a gwasanaethau iechyd meddwl i’r Syriaid, yn ogystal â helpu gweithwyr iechyd a chyfleusterau sydd wedi cael eu heffeithio gan drais cynyddol. Yn 2018 yn unig, trwy gymorth DFID yn Idlib cafodd tua 836,000 o bobl fynediad i ddŵr yfed glân, cafodd 873,000 ymgynghoriadau meddygol, rhannwyd 69,000 o ddognau bwyd a chafodd 110,000 o blant fynediad i addysg ffurfiol.

Gallaf eich sicrhau bod y DU yn chwarae rhan weithgar yn y rhanbarth, a byddaf yn parhau i ddilyn y datblygiadau.

Campaigns

  • My Plan

Robin Millar MP for Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Robin Millar MP
  • In Parliament
Site logoPromoted by Harry Saville on behalf of Robin Millar, both at North West Wales Conservatives both of 49 Bridge Street. Llangefni. LL77 7PN
Copyright 2021 Robin Millar MP for Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree