Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About Robin Millar
  • News
  • Lobbying & Campaigns
  • In Parliament
  • Contact
Site logo

UNICEF – Adroddiad ‘Future at Risk’

  • Tweet

Rydw i’n croesawu’r adroddiad ‘Future at Risk’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan UNICEF.  Mae’r adroddiad hwn yn nodi bod y pandemig yn rhoi pwysau mawr ar wasanaethau iechyd hanfodol mewn llawer o wledydd, yn enwedig gwledydd tlawd. Gallai hyn arwain at gynnydd yn lefelau marwolaethau ymysg mamau a phlant, a bygwth y cynnydd byd-eang tuag at gyflawni Nod Datblygu Cynaliadwy (NDC) 3. Oni bai fod camau pendant yn cael eu cymryd nawr, mae perygl y bydd y cynnydd tuag at y nod hwn a wnaed yn y gorffennol yn cael ei ddileu’n gyfan gwbl – fel gyda llawer o’r nodau eraill, fel addysg (NDC 4). 

Mae UNICEF hefyd yn nodi bod y DU wedi bod ar flaen agendâu iechyd byd-eang ers degawdau, a bod ganddi brofiad arbennig ym maes cymorth. Rydw i’n hyderus y bydd ymdrechion datblygu nawr ac yn y dyfodol yn parhau i anrhydeddu’r enw da hwn. Er enghraifft, yn 2020 addawodd y DU gyfanswm o £166 miliwn i fynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd ac i ddarparu cymorth i dros 7 miliwn o bobl agored i niwed mewn rhai o rannau mwyaf peryglus y byd.

Mae galw wedi bod ar i’r DU gyhoeddi cynllun i roi terfyn ar farwolaethau y gellir eu hatal ymysg mamau, babanod newydd-anedig a phlant .  Mae Gweinidogion wedi bod yn glir y bydd y ffordd y mae’r DU yn ymdrin â’r mater hwn yn cael ei llywio gan ganlyniadau’r Adolygiad Integredig, sy’n cynnwys adolygiad o bolisi tramor, sef y cam cywir yn fy marn i. Rydw i’n credu ei bod yn well aros nes y bydd yr Adolygiad wedi dod i ben cyn i’r DU ymrwymo i gamau gweithredu manwl ar y mater hwn. 

Rydw i’n cytuno hefyd â’r argymhelliad y dylai’r DU geisio arwain ymdrechion byd-eang i ddatblygu systemau iechyd cadarn. Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi cyflwyno cynllun pum pwynt i gryfhau systemau iechyd yn erbyn argyfyngau iechyd byd-eang, ac mae wedi ymrwymo i roi addysg a grymuso merched, gan gynnwys iechyd atgenhedlol, ar yr agenda fyd-eang fel rhan o’n Llywyddiaeth o’r G7 eleni. 

Gallwch chi ddod o hyd i gopi o’r adroddiad drwy glicio’r ddolen isod:

https://www.unicef.org.uk/policy/a-future-at-risk-report/

Lobbying & Campaigns

  • Campaigns
    • My Plan

Robin Millar MP for Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Robin Millar MP
  • In Parliament
Site logoPromoted by Harry Saville on behalf of Robin Millar, both at North West Wales Conservatives both of 49 Bridge Street. Llangefni. LL77 7PN
Copyright 2021 Robin Millar MP for Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree