I have been contacted by constituents who are concerned that our high food safety and animal welfare standards should be maintained in whatever trade deals are negotiated now that the UK has left the EU.
It is vital that people across the UK have confidence in the food they eat. I welcome the Government’s very clear commitment that any future trade agreements must uphold the UK’s high levels of food safety, animal welfare standards, and environmental protection. I am also aware that the EU Withdrawal Act transferred all existing EU food safety provisions onto the UK statute book, and Ministers have made clear these standards will not be watered down in pursuit of any trade deal now that the UK last left the EU.
I can assure you that food and animal welfare standards will not be reduced in the pursuit of trade deals. Any future trade deal must work for British farmers and consumers. Legislation has already been passed which will mean EU standards on food such as chlorinated chicken will come into UK law. EU regulations on hormone-treated beef are already part of UK law. These prevent the use of growth hormones in imports and domestic production.
Public consultations will be run ahead of any negotiations for new trade agreements, while any final agreement will be scrutinised and ratified by Parliament. These measures will ensure that both Parliament and the public can have their say on the content of any potential new trade agreements, including in the area of food standards. I am aware consultations have already taken place in the US, New Zealand and Australia, as well as with the Comprehensive and Progressive Agreement for Trans-Pacific Partnership (CPTPP).
I am also pleased that a future trade policy which works for the whole of the UK will be developed by working closely with the Devolved Administrations. The Government has committed to establishing a new Ministerial Forum on International Trade to provide a formal mechanism for Devolved Government Ministers to discuss and provide input to future trade negotiations.
I am encouraged by the Government’s commitment to uphold our high food standards, ensuring we will all continue to have confidence in the food we eat.
Mae fy etholwyr wedi cysylltu â mi i fynegi eu pryder y dylid sicrhau ein safonau uchel o ran diogelwch bwyd a lles anifeiliaid mewn unrhyw gytundeb masnach a gaiff ei drafod nawr bod y DU wedi gadael yr UE.
Mae’n hanfodol bod gan bobl ledled y DU hyder yn y bwyd maent yn ei fwyta. Rydw i’n croesawu ymrwymiad clir iawn Llywodraeth y DU i’w gwneud hi’n ofynnol i unrhyw gytundeb masnach yn y dyfodol gynnal safonau uchel y DU o ran diogelwch bwyd, lles anifeiliaid a diogelu’r amgylchedd. Rydw i’n ymwybodol hefyd bod Deddf Ymadael â’r UE wedi trosglwyddo holl ddarpariaethau diogelwch bwyd presennol yr UE i lyfr statud y DU, ac mae Gweinidogion wedi dweud yn glir na fydd y safonau hyn yn cael eu rhoi yn y fantol wrth fynd ar drywydd unrhyw gytundeb masnach nawr bod y DU wedi gadael yr UE.
Bydd ymgynghoriadau cyhoeddus yn cael eu cynnal cyn unrhyw drafodaethau ar gyfer cytundebau masnach newydd, a bydd Senedd y DU yn craffu ar unrhyw gytundeb terfynol ac yn ei gadarnhau. Bydd y mesurau hyn yn sicrhau bod Senedd y DU a’r cyhoedd yn cael cyfle i fynegi eu barn am gynnwys unrhyw gytundebau masnach newydd posibl, yn cynnwys ym maes safonau bwyd. Rydw i’n ymwybodol bod ymgynghoriadau eisoes wedi cael eu cynnal yn UDA, Seland Newydd ac Awstralia yn ogystal â mewn perthynas â’r Cytundeb Cynhwysfawr a Chynyddol ar gyfer Partneriaeth ar draws y Môr Tawel (CPTPP).
Rydw i hefyd yn falch y bydd polisi masnach y dyfodol sy’n gweithio i’r DU gyfan yn cael ei ddatblygu drwy weithio’n agos â'r Gweinyddiaethau Datganoledig. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i greu Fforwm Gweinidogol newydd ar Fasnach Ryngwladol er mwyn i Weinidogion Llywodraethau Datganoledig gael dull ffurfiol o drafod a rhoi mewnbwn i drafodaethau masnach y dyfodol.
Credaf fod ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi ein safonau uchel o ran bwyd yn galonogol, gan sicrhau y byddwn ni i gyd yn parhau i fod â hyder yn y bwyd rydym yn ei fwyta.