The internet has become an integral part of our lives. Whilst being online can be a hugely positive experience for children, we all must be aware of the dangers. It is vital that we do all we can to protect our children from the negative impacts the online world can have, so that we make the UK the safer place to be online.
I know the Government fully recognises the importance of tackling online harms, including harmful content to children on the Internet. That is why the Online Harms White Paper, jointly published by the Home Office and DCMS in April 2019, sets out plans for world-leading legislation in this area.
As championed by the NSPCC, the Bill will establish a new duty of care on companies towards their users, which will be overseen by an independent regulator. This will make companies take more responsibility for the safety of their users and tackle harm caused by content or activity on their services. The regulator will have a suite of powers to take effective enforcement action against companies that have breached their statutory duty of care. The regulator will take a risk-based approach, prioritising action to tackle activity or content where there is the greatest evidence or threat of harm, or where children or other vulnerable users are at risk.
I also welcome that, as set out in the Online Harms White Paper, the Government will be developing an online media literacy strategy. This strategy will lead to a coordinated and strategic approach to online media literacy education and awareness for children, young people and adults. Online media and digital literacy can equip users with the skills they need to spot dangers online, critically appraise information and take steps to keep themselves and others safe online. In light of the steps being taken I will not be signing EDM 57.
Mae’r rhyngrwyd wedi dod yn rhan annatod o’n bywydau. Mae bod ar-lein yn gallu bod yn brofiad gwerthfawr dros ben i blant, ond mae’n rhaid i bawb ohonon ni fod yn ymwybodol o’r peryglon. Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein plant rhag yr effeithiau negyddol mae’r byd ar-lein yn gallu eu creu, fel y gallwn wneud y DU yn lle fwy diogel ar-lein.
Rwy’n gwybod bod y Llywodraeth yn cydnabod yn llawn pa mor bwysig yw hi i fynd i’r afael â niwed ar-lein, er enghraifft cynnwys niweidiol i blant ar y rhyngrwyd. Dyna pam bod y Papur Gwyn ar Niwed Ar-lein, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2019 ar y cyd gan y Swyddfa Gartref a'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn nodi cynlluniau ar gyfer deddfwriaeth flaengar yn y maes hwn.
Bydd y Bil newydd a gafodd ei hyrwyddo gan yr NSPCC yn sefydlu dyletswydd gofal newydd ar gwmnïau o ran eu defnyddwyr. Bydd y gwaith o oruchwylio hyn yn cael ei wneud gan reoleiddiwr annibynnol. Bydd hyn yn gwneud i gwmnïau gymryd mwy o gyfrifoldeb dros ddiogelwch eu defnyddwyr a mynd i'r afael â niwed sy’n cael ei achosi gan gynnwys neu weithgarwch ar eu gwasanaethau. Bydd gan y rheoleiddiwr gyfres o bwerau er mwyn cymryd camau gorfodi effeithiol yn erbyn cwmnïau sydd wedi torri eu dyletswydd gofal statudol. Bydd y rheoleiddiwr yn cymryd dull gweithredu yn seiliedig ar risg, gan roi blaenoriaeth i weithredu er mwyn mynd i’r afael â gweithgarwch neu gynnwys sy’n dangos y dystiolaeth fwyaf o fygythiad neu niwed, neu lle mae plant neu ddefnyddwyr eraill sy’n agored i niwed mewn perygl.
Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith y bydd y Llywodraeth yn datblygu strategaeth llythrennedd yn y Cyfryngau ar-lein. Mae hyn wedi cael ei nodi yn y Papur Gwyn ar Niwed Ar-lein. Bydd y strategaeth hon yn arwain at ddull strategol a chydlynol o weithredu ar gyfer addysg llythrennedd yn y Cyfryngau ar-lein a chodi ymwybyddiaeth i blant, pobl ifanc ac oedolion. Mae llythrennedd yn y cyfryngau a llythrennedd digidol yn gallu arfogi defnyddwyr gyda’r sgiliau maen nhw eu hangen i ddod o hyd i beryglon ar-lein, yn ogystal ag arfarnu gwybodaeth yn feirniadol a chymryd camau i’w diogelu eu hunain a phobl eraill ar-lein. Yng ngoleuni’r camau sy’n cael eu cymryd ni fyddaf yn llofnodi EDM 57.