For far too long, millions of rail passengers in the north of England have not had the rail services they deserve and have had to put up with unacceptable delays and cancellations.
Railways should allow people to access education and highly skilled, well paid jobs, and of course enable them to socialise. I therefore welcome that the Government is taking action to bring about much needed change.
From 1st March, the Northern Rail franchise will be taken into public ownership and the Government will begin operating Northern services through the public-sector operator - the so-called operator of last resort (OLR). The OLR already runs the London North Eastern Railway and has seen passenger satisfaction rise in the 19 months it has run the service. Indeed, improving the performance and reliability of Northern services, and substantially reducing the number of cancellations, will be a priority.
I am reassured by the Government’s determination to see tangible improvements for passengers. I understand that the Pacer replacement programme will continue. Pacers will be banished very soon on the western side of the Pennines and, in Yorkshire, will be gone by the spring. In addition, all of Northern Rails trains will be deep cleaned. Cleaning patterns will also be reviewed to make sure the first and last passengers travel on trains in the same condition.
Ministers are committed to addressing overcrowding too. Platforms will be lengthened at 30 stations to allow for longer trains, and new technology to identify crowding pinch points will be trialled to ensure that trains are being deployed in the most effective way to meet demand. Tackling issues arising from inadequate infrastructure, though not straightforward, will also be key.
No stone should be left unturned improving this franchise for passengers, businesses, communities and town centres. The railways were invented in the north of England, and it’s time the north’s economy is strengthened, rather than weakened, by its rail network.
Ers gormod o amser, nid yw miliynau o deithwyr trên yng ngogledd Lloegr wedi cael y gwasanaethau rheilffordd y maent yn eu haeddu ac maent wedi gorfod dioddef oedi a chanslo annerbyniol.
Dylai rheilffyrdd ganiatáu i bobl gyrchu at addysg a swyddi sy’n galw am lefel uchel o sgiliau, ac sy’n talu cyflogau da, ac hefyd wrth gwrs eu galluogi i gymdeithasu. Rydw i felly yn croesawu’r ffaith fod y Llywodraeth yn gweithredu i sicrhau newid y mae mawr ei angen.
O 1af Mawrth ymlaen, bydd masnachfraint rheilffyrdd Northern yn cael ei chymryd i berchnogaeth gyhoeddus a bydd y Llywodraeth yn dechrau gweithredu gwasanaethau Northern drwy’r gweithredwr sector cyhoeddus – sy’n cael ei ddisgrifio fel gweithredwr pan fetha popeth arall (OLR). Mae’r OLR eisoes yn rhedeg Rheilffordd Gogledd Ddwyrain Llundain ac wedi gweld cynnydd yn lefel boddhad teithwyr yn y 19 mis y bu’n rhedeg y gwasanaeth. Yn wir, bydd gwella perfformiad a dibynadwyedd gwasanaethau’r Gogledd, a lleihau nifer y gwasanaethau sy’n cael eu canslo yn sylweddol, yn flaenoriaeth.
Mae gweld bod y Llywodraeth yn benderfynol o sicrhau gwelliannau pendant i deithwyr yn gwneud i mi deimlo’n dawelach fy meddwl. Rwy’n deall y bydd y rhaglen i gael gwared â'r trenau Pacer yn parhau. Yn wir, ni fyddant yn gwasanaethu yn fuan iawn ar ochr orllewinol y Pennines, a byddant wedi diflannu o Swydd Efrog erbyn y gwanwyn. Yn ogystal, bydd holl drenau Northern yn cael eu glanhau’n ddwfn. Bydd y patrymau glanhau hefyd yn cael eu hadolygu i sicrhau bod y teithwyr cyntaf ac olaf yn teithio ar drenau sydd yn yr un cyflwr.
Mae'r Gweinidogion wedi ymrwymo i fynd i’r afael â gorlenwi hefyd. Bydd platfformau’n cael eu hymestyn mewn 30 gorsaf er mwyn caniatáu ar gyfer trenau hirach, a bydd technoleg newydd yn cael ei threialu er mwyn adnabod mannau lle mae yna wasgfa a sicrhau bod trenau’n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol i ateb y galw. Bydd mynd i’r afael â materion sy’n deillio o seilwaith annigonol, er nad yw’n syml, yn allweddol hefyd.
Ni ddylid gadael unrhyw garreg heb ei throi wrth fynd ati i wella’r fasnachfraint hon ar gyfer teithwyr, busnesau, cymunedau a chanol trefi. Yng ngogledd Lloegr y cafodd y rheilffyrdd eu dyfeisio, ac mae’n bryd i economi’r gogledd gael ei chryfhau, yn hytrach na’i gwanhau, gan ei rhwydwaith rheilffyrdd.