The majority of aquatic litter originates from land-based sources, so the action to stem the flow of plastic must be taken on land. The UK’s world-leading ban on microbeads will help stop potentially billions of particles from entering the aquatic environment every year, and over 15.6 billion fewer bags have been issued since the introduction of the plastic bag charge in 2015. I am also pleased that following an open consultation a ban on the supply of plastic straws, excluding those needed for medical purposes, plus drinks stirrers and cotton buds will come into force next April.
Since water privatisation, around £25 billion has been invested to reduce pollution from sewage, covering improvements in sewage treatment and overflows. In England, between 2015 and 2020, water companies are investing over £3 billion to improve their sewerage infrastructure. It is also encouraging to see tough enforcement action when things go wrong, as with the unprecedented fine of almost £20 million levied against Thames Water in March 2017 in response to six cases of avoidable sewage pollution.
41 new Marine Conservation Zones have been created. The UK now has 355 Marine Protected Areas of different types, spanning 220,000 square km. No new activities deemed damaging may take place in these areas and existing harmful activities will be minimised or stopped to allow important habitats to recover.
A review has now been launched into whether and how Highly Protected Marine Areas, the strongest form of marine protection, could be introduced in English seas. This will help inform the Government’s work to expand and strengthen the UK’s Blue Belt to create richer habitats for marine life.
As you may be aware as of 1st April 2018, the Welsh Government became responsible for Welsh offshore waters (from 12 nautical miles up to the median line). The Marine Protected Area (MPA) Network Management Framework for Wales (the “Framework”) has been produced by the MPA Management Steering Group1. It sets out the structure for improving the management and condition of the network of MPAs in Wales for the period 2018 – 2023.
The report can be found on the below link.
Mae’r rhan fwyaf o’r sbwriel sydd yn y dŵr yn deillio o ffynonellau ar y tir, felly mae’n rhaid cymryd camau i atal y llif plastig ar y tir. Bydd gwaharddiad y DU ar ficrobelenni, sy’n torri tir newydd, yn helpu i atal biliynau o ronynnau rhag mynd i mewn i’r dŵr bob blwyddyn, ac mae dros 15.6 biliwn yn llai o fagiau wedi cael eu gwerthu ers cyflwyno’r tâl bagiau plastig yn 2015. Rydw i’n falch hefyd, yn dilyn ymgynghoriad agored, y bydd gwaharddiad ar gyflenwi gwellt plastig, ac eithrio’r rheini sydd eu hangen at ddibenion meddygol, yn ogystal â ffyn troi diodydd a ffyn gwlân cotwm, yn dod i rym fis Ebrill nesaf.
Ers preifateiddio dŵr, mae tua £25 biliwn wedi cael ei fuddsoddi i leihau llygredd o garthion, sydd wedi talu am welliannau i systemau trin carthion a gorlifoedd. Yn Lloegr, rhwng 2015 a 2020, mae cwmnïau dŵr wedi buddsoddi dros £3 biliwn i wella eu seilwaith carthffosiaeth. Mae hefyd yn galonogol gweld camau gorfodi llym pan fydd pethau’n mynd o chwith, er enghraifft yr achos yn erbyn Thames Water ym mis Mawrth 2017, lle codwyd y ddirwy uchaf erioed, sef bron i £20 miliwn, mewn ymateb i chwe achos o lygredd carthion y gellid bod wedi’u hosgoi.
Mae 41 o Ardaloedd Cadwraeth Morol newydd wedi cael eu creu. Mae gan y DU 355 o Ardaloedd Morol Gwarchodedig o wahanol fathau, sy’n rhychwantu 220,000 km sgwâr. Ni chaiff gweithgareddau newydd yr ystyrir eu bod yn niweidiol eu cynnal yn yr ardaloedd hyn, a bydd y gweithgareddau niweidiol presennol yn cael eu lleihau neu eu hatal er mwyn rhoi cyfle i adfer cynefinoedd pwysig.
Mae adolygiad wedi cael ei lansio nawr i ganfod a ellid cyflwyno Ardaloedd Morol Gwarchodedig Iawn, sef y mathau cryfaf o warchodaeth forol, ym moroedd Lloegr, a sut gellid gwneud hynny. Bydd hyn yn helpu i lywio gwaith y Llywodraeth i ehangu a chryfhau Llain Las y DU i greu cynefinoedd mwy cyfoethog ar gyfer bywyd y môr.
Fel y gwyddoch, o 1 Ebrill 2018, daeth Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddyfroedd môr mawr Cymru (o 12 milltir fôr hyd at y llinell ganol). Mae Fframwaith Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru (y “Fframwaith”) wedi cael ei baratoi gan y Grŵp Llywio ar Reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Mae’n nodi'r strwythur ar gyfer gwella sut caiff y rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru ei reoli a chyflwr y rhwydwaith hwnnw rhwng 2018 a 2023. Dilynwch y ddolen isod i weld yr adroddiad.