I know there is a great deal of concern about our future trading relations as we approach December 31st.
Discussions with potential trading partners are continuing during this serious outbreak of COVID-19. The latest round of negotiations took place via videoconference at the end of April and further rounds will take place next week and the week commencing 1stJune.
The UK has already signed ‘mutual recognition agreements’ with Australia, New Zealand and the US. This agreement between two regulatory agencies recognises each other's regulatory assessments, inspections or reviews.
However, the benefits of an ambitious and comprehensive UK-US FTA are substantial. Aside from being the world’s largest economy, the US is the UK’s single largest trading partner. Total UK-US trade in the last year was valued at £220.9 billion, and our countries have over £700 billion invested in each other’s economies. Every day, over a million Britons and more than a million Americans work for companies from the other nation.
A long-run analysis by the Government shows that a UK-US FTA could boost trade between the UK and US by around £15.3 billion in comparison to 2018 and generate a £1.8 billion rise in UK workers’ wages.
A UK-US FTA could benefit all four nations of the UK and almost every sector. The agricultural sector would be a winner with lower input costs and a bigger export market. Moreover, the 30,000 Small and Medium Sized Enterprises who export to the US from all parts of the UK would benefit from the cutting of tariffs, trade barriers and red tape.
I am reassured by my Ministerial colleagues’ commitment not to compromise the UK’s high animal welfare, environmental, food safety and food import standards in any future FTA, including one with the US. Ministers do not want to compromise the UK’s domestic welfare production standards either. It is worth noting that none of the transitioned EU FTAs have exported domestic welfare production standards, and extraterritorial regulation will not form part of any trade deal the UK is party to.
UK Government modelling suggests that the UK’s agricultural sector would be a net beneficiary of an FTA with the US. I understand the Government wants to see tariffs come down for UK food exports on a balanced and mutually beneficial basis, and that Ministers would like restrictions on exports such as UK lamb removed. An FTA could also build on agreements such as the one recently reached between the UK and US to reopen the US market to British beef exports. I know Ministers will also push hard to secure commitments on transparent and efficient customs procedures, including for UK agriculture.
I also understand the many concerns regarding standards in future trade agreements, the scrutiny of such agreements, and investor-state dispute settlement (ISDS) mechanisms. However, I would like to assure you that such concerns are unfounded.
Maintaining safety and public confidence in the food we eat is of the highest priority. Without exception, imports must meet all the relevant UK product rules and regulations. Any future trade agreements must work for UK farmers, businesses, and consumers, and uphold food safety, animal welfare standards and environmental protection. Quality, safety and performance will continue to be paramount.
At this time of national emergency, we have seen more than ever how important the NHS is to us all. The Government has also been repeatedly clear that our NHS will never be on the table in any trade agreements, a position I fully support. The UK will continue to ensure that the NHS is protected in all trade agreements it is party to, whether transitioned from an EU context or as a result of new negotiations. Indeed, outside of the EU, rigorous protections for our NHS will be maintained and included in any future trade agreement to which our country is party.
The Government is committed to transparency and scrutiny of trade agreements, which includes public consultation and by Parliament.
Gwyddom fod llawer o bryder ynglŷn â’n cysylltiadau masnachu yn y dyfodol wrth i ni agosáu at 31ain Rhagfyr.
Mae trafodaethau gyda darpar bartneriaid masnachu yn parhau yn ystod yr achos difrifol hwn o COVID-19. Cynhaliwyd y rownd ddiweddaraf o drafodaethau drwy fideo gynhadledd ddiwedd mis Ebrill a bydd rowndiau pellach yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos nesaf a’r wythnos yn dechrau 1af Mehefin.
Mae’r DU eisoes wedi llofnodi ‘cytundebau cyd-gydnabod’ gydag Awstralia, Seland Newydd a’r UD. Mae’r cytundeb hwn rhwng dwy asiantaeth reoleiddiol yn cydnabod asesiadau, archwiliadau neu adolygiadau rheoleiddiol ei gilydd.
Fodd bynnag, mae manteision Cytundeb Masnach yn y Dyfodol uchelgeisiol a chynhwysfawr rhwng y DU a’r UD yn sylweddol. Yn ogystal â’r ffaith mai’r UD sydd â’r economi fwyaf yn y byd, hwy hefyd yw partner masnachu unigol mwyaf y DU. Gwerth y berthynas fasnach rhwng y DU a’r UD y llynedd oedd £220.9 biliwn, ac mae ein gwledydd wedi buddsoddi mwy na £700 biliwn yn economïau ei gilydd. Bob dydd, mae dros filiwn o Brydeinwyr a mwy na miliwn o Americanwyr yn gweithio i gwmnïau o’r wlad arall.
Mae dadansoddiad tymor hir gan y Llywodraeth yn dangos y gallai Cytundeb Masnachu yn y Dyfodol rhwng y DU a’r UD fod yn werth tua £15.3 biliwn o gymharu â 2018 a chynhyrchu cynnydd o £1.8 biliwn yng nghyflogau gweithwyr y DU.
Gallai Cytundeb rhwng y DU a’r UD fod yn fanteisiol i bedair gwlad y DU a bron ym mhob sector. Byddai’r sector amaethyddiaeth ar ei ennill gyda chostau mewnbwn is a marchnad allforio fwy. Yn ogystal, byddai’r 30,000 o Fentrau Bach a Chanolig sy’n allforio i’r UD o bob rhan o’r DU yn manteisio ar dariffau is a llai o rwystrau masnachu a biwrocratiaeth.
Rwyf wedi fy nghalonogi gan ymrwymiad fy nghydweithwyr Gweinidogol na fyddant yn cyfaddawdu ar safonau uchel llesiant anifeiliaid, safonau amgylcheddol, diogelwch bwyd a mewnforio bwyd mewn unrhyw Gytundeb yn y dyfodol, gan gynnwys un gyda’r UD. Nid yw Gweinidogion eisiau cyfaddawdu safonau cynhyrchu llesiant domestig y DU ‘chwaith. Mae’n werth nodi nad oes gan unrhyw rai o’r Cytundebau Masnach yn y Dyfodol gyda’r UE unrhyw safonau cynhyrchu llesiant domestig, ac ni fydd rheoliadau tiriogaetholrwydd ychwanegol yn ffurfio unrhyw ran o’r cytundeb masnach y mae’r DU yn rhan ohono.
Mae gwaith modelu Llywodraeth y DU yn awgrymu y byddai sector amaethyddiaeth y DU yn fuddiolwr net Cytundeb Masnach yn y Dyfodol gyda’r UD. Deallaf fod y Llywodraeth yn awyddus i weld tariffau’n cael eu lleihau ar gyfer allforion bwyd y DU ar sail fuddiol gytbwys i’r ddwy ochr, ac y byddai Gweinidogion yn hoffi gweld cyfyngiadau ar allforion megis cig oen y DU. Gallai Cytundeb adeiladu hefyd ar gytundebau megis yr un a gymeradwywyd yn ddiweddar rhwng y DU a’r UD i ail-agor marchnad yr UD i allforion cig eidion o Brydain. Gwn y bydd Gweinidogion yn ymdrechu’n galed hefyd i sicrhau ymrwymiadau ar weithdrefnau tollau agored ac effeithlon, gan gynnwys ar gyfer amaethyddiaeth y DU.
Deallaf hefyd y pryderon niferus ynghylch safonau mewn cytundebau masnach yn y dyfodol, y broses o graffu ar gytundebau o’r fath, a’r dulliau setlo anghydfodau rhwng buddsoddwr a’r wladwriaeth (ISDS). Fodd bynnag, hoffwn eich sicrhau bod pryderon o’r fath yn ddi-sail.
Mae sicrhau diogelwch a hyder y cyhoedd yn y bwyd yr ydym yn ei fwyta yn flaenoriaeth uchel iawn. Yn ddieithriad, mae’n rhaid i fewnforion gyflawni holl reolau a rheoliadau perthnasol y DU ar gyfer cynnyrch. Mae’n rhaid i unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol weithio i ffermwyr, busnesau a defnyddwyr y DU, a chynnal diogelwch bwyd, safonau llesiant anifeiliaid a diogelu’r amgylchedd. Bydd ansawdd, diogelwch a pherfformiad yn parhau i fod yn hollbwysig.
Yn y cyfnod hwn o argyfwng cenedlaethol, rydym wedi gweld fwy nac erioed pa mor bwysig yw’r GIG i bob un ohonom. Mae’r Llywodraeth hefyd wedi pwysleisio’n gyson na fydd ein GIG fyth ar y bwrdd mewn unrhyw gytundebau masnach, ac rwy’n gwbl gefnogol o hynny. Bydd y DU yn parhau i sicrhau bod y GIG yn cael ei ddiogelu ym mhob cytundeb masnach y mae’n rhan ohono, p’un a yw hynny’n gytundeb pontio o gyd-destun yr UE neu o ganlyniad i drafodaethau newydd. Yn wir, y tu hwnt i’r UE, bydd amddiffyniadau cadarn ar gyfer ein GIG yn cael eu cynnal a’u cynnwys mewn unrhyw gytundeb masnach yn y dyfodol y bydd ein gwlad yn rhan ohono.
Mae’r Llywodraeth yn ymrwymedig i dryloywder a chraffu ar gytundebau masnach, sy’n cynnwys ymgynghori gyda’r cyhoedd a gan y Senedd.