Rwy’n cydnabod bod llawer iawn o bryder ynglŷn â rhoi trwyddedau ar gyfer defnyddio neonicotinoidau yn Lloegr.
Mae'r Llywodraeth yn parhau i gefnogi'r cyfyngiadau ar neonicotinoidau i ddiogelu pryfed peillio, a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol lle na ellir rheoli clefydau neu blâu drwy unrhyw ddull rhesymol arall y rhoddir awdurdodiadau brys ar gyfer plaladdwyr. Gall yr awdurdodiadau brys hyn roi caniatâd i ddefnyddio’r cynnyrch yn y tymor byr os gall yr ymgeisydd ddangos bod hyn yn mynd i'r afael â pherygl na ellir ei reoli drwy unrhyw ddull rhesymol arall, y bydd y defnydd yn cael ei gyfyngu a’i reoli ac y gellir sicrhau diogelwch angenrheidiol i bobl a'r amgylchedd.
Ar ôl ystyried yn ofalus, mae llywodraeth y DU wedi rhoi Awdurdodiad Brys i ddiwydiant betys siwgr Lloegr ar gyfer y dechnoleg trin hadau neonicotinoid, Cruiser SB, yn 2021.
Paratowyd achos grymus gan British Sugar, NFU Sugar a Sefydliad Ymchwil Betys Prydain, yn gofyn am argymhelliad cadarnhaol gan y Pwyllgor Arbenigol ar Blaladdwyr ac yna am gymeradwyaeth gan Defra. Nododd yr adroddiad effaith ddifrifol Virus Yellows yn 2020 a'r bygythiad gwirioneddol i'r diwydiant betys siwgr. Roedd y cais a wnaed yn bodloni'r tri gofyniad ar gyfer awdurdodiad brys.
- Angen awdurdodiad oherwydd na ellir rheoli’r perygl drwy ddulliau eraill: Mae'r dechneg trin hadau neonicotinoid yn sicrhau amddiffyniad pwysig i'r cnwd sy'n tyfu yn erbyn plâu pryfed a'r firysau y gallant eu trosglwyddo. Ni ellir ei amddiffyn drwy unrhyw ddull rhesymol arall. Lleihawyd cynnyrch betys siwgr yn sylweddol yn nhymor 2020 oherwydd nifer yr achosion o firysau, a byddai amodau tebyg yn 2021 yn debygol o arwain at beryglon tebyg.
- Bydd y defnydd a wneir o’r cynnyrch yn cael ei gyfyngu a’i reoli: Cynigiodd yr ymgeisydd ddefnyddio cyfradd is i drin yr hadau fel bod llai o'r cynnyrch yn mynd i'r pridd. Yn ogystal â hyn, cynigiodd yr ymgeisydd ddefnyddio model rhagweld firysau i benderfynu a oes angen trin y cnwd, gan osod trothwy ar gyfer lefel yr haint lle byddai unrhyw beth uwchlaw’r lefel honno’n arwain at effeithiau economaidd. Os na fydd yn cyrraedd y trothwy hwnnw, ni fydd yr hadau'n cael eu trin. Mae tyfu betys siwgr yn Lloegr hefyd wedi'i gyfyngu'n ddaearyddol o ran pellter at 1 o 4 ffatri prosesu betys a leolir yn nwyrain Lloegr. Mae holl fetys siwgr y DU yn cael eu tyfu o dan drefniadau contractio masnachol, ac ystyrir bod hyn yn sicrhau dull effeithiol ar gyfer rheoli dosbarthiad a defnydd yr hadau a drinnir. Er mwyn mynd i'r afael â'r gofyniad i reoli’r defnydd, mae’r ymgeisydd yn cynnig cynllun stiwardiaeth sy'n cynnwys sawl mesur i fynd i'r afael â risgiau i beillio pryfed, wedi'u hategu gan drefniadau contractio masnachol y diwydiant.
- Amgylchiadau arbennig: Amlinellodd yr ymgeisydd gynllun ar gyfer datblygu dulliau eraill, cynaliadwy o ddiogelu cnydau heb ddefnyddio’r dechneg trin hadau neonicotinoid. Mae hyn yn cynnwys datblygu mathau o blanhigion gydag ymwrthedd, mesurau i sicrhau bod hadau’n egino’n well ac arferion newydd i dyfwyr. Mae'r cynllun eisoes yn cael ei gyflawni. Ystyrir bod y cynllun yn rhoi sail dda i gadarnhau bod atebion eraill, parhaol yn lle’r dechnoleg trin hadau neonicotinoid ar gyfer betys siwgr yn cael eu hystyried fel mater o flaenoriaeth. Mae'r cynllun yn rhagweld y bydd angen ceisiadau am awdurdodiadau brys ar gyfer triniaethau hadau neonicotinoid am dair blynedd (2021 i 2023). Bydd unrhyw geisiadau yn y dyfodol yn cael eu hasesu'n llawn yn erbyn y fframwaith rheoleiddio ar gyfer awdurdodiadau brys.
Mae'r awdurdodiad ar gyfer defnyddio SB Cruiser Syngenta ar fetys siwgr yn unig ac ar gyfer ei defnyddio yn 2021 yn Lloegr yn unig. Mae amodau ynghlwm wrth yr awdurdodiad brys i sicrhau, os cyrhaeddir y trothwy ar gyfer lefelau firysau a bod angen trin hadau, y bydd y defnydd a wneir o'r cynnyrch yn cael ei gyfyngu a’i reoli a bydd unrhyw risgiau posibl i bryfed peillio yn cael eu lliniaru i lefel dderbyniol. Yn benodol, bydd cyfradd defnyddio’r cynnyrch yn is na'r gyfradd fasnachol arferol; ni chaiff cnwd blodeuo ei blannu o fewn 22 mis i'r cnwd betys siwgr, ac ni chaiff cnwd rêp had olew ei blannu o fewn 32 mis. Dilynir rhaglenni chwynladdwyr a argymhellir gan y diwydiant i gyfyngu ar chwyn sy’n blodeuo mewn cnydau betys siwgr ac o'u cwmpas. Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd gyfyngu ar gyfradd hau hadau wedi’u trin i ddim mwy na’r raddfa fasnachol arferol ar gyfer hau hadau, a datblygu a gweithredu ei raglen arfaethedig i fonitro priddoedd a phlanhigion ar ôl defnyddio'r hadau a chwistrellwyd.
Mae defnyddio’r dechnoleg trin hadau neonicotinoid Cruiser SB yn amodol ar fodel rhagweld y Rothamsted Virus Yellows yn cyrraedd pwynt sbarduno a bennwyd ymlaen llaw ym mis Chwefror. Defnyddiwyd y model hwn fel dangosydd ar gyfer Virus Yellows ers dros 30 mlynedd, gan ddarparu asesiad cadarn a rhagfynegiad o'r lefelau risg.
Mae etholwyr wedi lleisio llawer o bryderon a gobeithio bod hyn yn mynd beth o'r ffordd i egluro camau gweithredu'r Llywodraeth.