Last week I voted against a motion on testing NHS staff. This was put down by the Labour Party in what is called an Opposition Day debate.
Everyone sensible supports the testing of NHS staff. Indeed, there is already a staff testing policy carried out according to the advice of the Chief Medical Officer. All Conservative MPs including myself support this.
I have received a number of emails from people concerned about my vote against this motion. These sorts of motions (on NHS testing, NHS salaries, child immigrants etc.) are worded to make the government appear heartless. It happens quite often and will no doubt happen again. I accept that it is an Opposition tactic to gain easy soundbites and attack lines.
These motions are known as "motherhood and apple pie" motions, as in "Who wouldn't vote for motherhood and apple pie?"
I have however been asked for an explanation of what I actually did vote for, which I am always very happy to provide.
WHY DID I VOTE AGAINST THE MOTION?
First, when the Shadow Health Secretary introduced the debate at the Despatch Box in the Chamber, he said the testing would be "as necessary".
The problem is that was not the wording of the motion, which was for blanket testing. That's a really, really important difference.
Because "as necessary" is what happens at the moment - even if it is means more often than weekly. The Opposition motion was to introduce blanket, weekly testing - for everyone. In other words, whether it was necessary or not. This is not a good idea for many reasons.
The UK testing capacity is now at about 200,000 tests a day. This is huge but there are also 2.3 million NHS staff in England alone. It is one of the world's biggest employers.
The clinical advice is still to focus testing in key areas or settings identified to have high prevalence - covid wards for example. This includes when an outbreak occurs. Surveillance testing also occurs regularly in these environments, as does asymptomatic testing.
NHS staff will be familiar that hospitals are split into different areas ("Green" have no covid cases for example, other areas are quarantined for covid patients). The NHS staff working with patients on wards, for example, will benefit from regular testing far more than NHS staff working in offices or admin - who carry no greater risk than any other worker in a job that does not come into regular contact with confirmed covid patients.
A further reason for this targeted 'as necessary' approach, and specifically to do with staff wellbeing, is the risk of misleading results when the presence of the virus is very low. This can undermine the value of testing - and increase worry unnecessarily for staff and their families.
SO WHAT DID I ACTUALLY VOTE FOR?
Second, by voting against the Labour motion, I agreed to continuing with the testing regime that is in place now.
That's the testing regime supported by the Chief Medical Officer and the British Medical Association. This ensures NHS front line workers continue to receive regular testing based on scientific advice and when it is necessary, not based on the opposition attempts to score political points.
I have attached the extract from Hansard as to what I agreed to. This never gets the headline in "motherhood and apple pie motions".
If you want to read the whole debate you can do so here. Some of the speeches are very good...
https://hansard.parliament.uk/…/TestingOfNHSAndSocialCareSt…
WHAT ABOUT WALES?
Third, this vote concerns England. However, it is worth noting that even here in Wales, where the Labour Welsh Government run the NHS, weekly testing of workers is not carried out.
If Labour really thought weekly testing was such a good idea, they would surely have ensured it was done in Wales.
Finally, I object to this cynical use of important issues or vulnerable people, to take up time which could be used constructively in the Chamber and to using the hardworking and brave NHS staff - all to generate hollow, sound bite criticisms that promote fear and upset.
That belittles everyone.
Yr wythnos ddiwethaf pleidleisiais yn erbyn cynnig ynglŷn â phrofi staff y GIG. Cafodd hwn ei osod gan y Blaid Lafur yn yr hyn a elwir yn ddadl Diwrnod yr Wrthblaid.
Mae pawb synhwyrol yn cefnogi profi staff y GIG. Yn wir, mae eisoes bolisi profi staff sy’n cael ei gynnal yn unol â chyngor y Prif Swyddog Meddygol. Mae pob AS Ceidwadol yn cefnogi hyn, gan gynnwys fi fy hun.
Rydw i wedi derbyn nifer o e-byst gan bobl sy’n bryderus ynglŷn â’m pleidlais yn erbyn y cynnig hwn. Mae’r mathau hyn o gynigion (profion y GIG, cyflogau’r GIG, mewnfudwyr sy’n blant ayyb) yn cael eu geirio i wneud y llywodraeth ymddangos yn galongaled. Mae’n digwydd yn eithaf aml, ac yn sicr, bydd yn digwydd eto. Rydw i’n derbyn ei bod yn dacteg gan yr Wrthblaid i ennill sylw bachog a llinellau ymosod hawdd.
Mae’r cynigion hyn yn cael eu hadnabod fel cynigion “mamolaeth a theisen afal”, fel “Pwy na fyddai’n pleidleisio dros famolaeth a theisen afal?”
Fodd bynnag, gofynnwyd i mi am eglurhad o’r hyn y gwneuthum bleidleisio drosto, ac rydw i bob amser yn falch o wneud hyn.
PAM WNEUTHUM BLEIDLEISIO YN ERBYN Y CYNNIG?
Yn y lle cyntaf, pan gyflwynodd Ysgrifennydd Iechyd yr Wrthblaid y ddadl wrth ymyl y Blwch Dogfennau yn y Siambr, dywedodd y byddai’r profi “fel y bo angen”.
Y broblem yw nad hynny oedd geiriad y cynnig, a oedd ar gyfer profion cyffredinol. Mae hynny’n wahaniaeth gwirioneddol bwysig.
Gan mai “fel y bo angen” yw beth sy’n digwydd ar y funud – hyd yn oed os yw’n golygu mwy aml nag wythnosol. Cynnig yr Wrthblaid oedd cyflwyno profi cyffredinol, wythnosol – ar gyfer pawb. Mewn geiriau eraill, p’un a oedd ei angen ai peidio. Nid yw hyn yn syniad da oherwydd nifer o resymau.
Mae’r capasiti profi yn y DU yn awr ar oddeutu 200,000 o brofion y diwrnod. Mae hyn yn anferth, ond mae 2.3 miliwn o staff y GIG hefyd yn Lloegr yn unig. Y GIG yw un o gyflogwyr mwyaf y byd.
Y cyngor clinigol yw parhau i ganolbwyntio ar brofi mewn ardaloedd neu leoliadau allweddol sydd wedi cael eu nodi fel rhai â lefelau uchel o Covid – er enghraifft, mewn wardiau Covid. Mae hyn yn cynnwys pan mae achosion yn digwydd. Yn ogystal, mae profion gwyliadwriaeth hefyd yn digwydd yn rheolaidd yn yr amgylcheddau hyn, fel y mae profi asymptomatig.
Bydd staff y GIG yn gyfarwydd â’r ffaith bod ysbytai yn cael eu rhannu i wahanol ardaloedd (er enghraifft “Gwyrdd” lle nad oes unrhyw achosion Covid ac mae ardaloedd eraill yn cael eu gosod mewn cwarantin ar gyfer cleifion Covid). Mae staff y GIG sy’n gweithio gyda chleifion ar y wardiau, er enghraifft, yn cael budd o gael eu profi yn rheolaidd a hynny’n llawer mwy na staff y GIG sy’n gweithio mewn swyddfeydd neu’n gwneud gwaith gweinyddol – nad ydyn nhw mewn mwy o risg nag unrhyw weithiwr arall mewn swydd nad yw’n dod i gysylltiad rheolaidd â chleifion a dderbyniodd gadarnhad eu bod yn dioddef o Covid.
Rheswm arall ar gyfer y dull ‘fel y bo angen’ hwn sy’n cael ei dargedu, ac sy’n benodol yn ymwneud â llesiant y staff, yw’r risg o ganlyniadau camarweiniol pan mae presenoldeb y feirws yn isel iawn. Gall hyn danseilio gwerth y profi – a chynyddu pryder heb fod angen ar gyfer staff a’u teuluoedd.
FELLY, BETH WNEUTHUM BLEIDLEISIO DROSTO MEWN GWIRIONEDD?
Yn ail, drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig Llafur, cytunais i barhau â’r drefn brofi sy’n bodoli yn awr.
Honno yw’r drefn brofi a gefnogir gan y Prif Swyddog Meddygol a Chymdeithas Feddygol Prydain. Mae hyn yn sicrhau bod gweithwyr y rheng flaen yn parhau i dderbyn profion rheolaidd a hynny’n seiliedig ar gyngor gwyddonol a phan fydd angen, ac nid yn seiliedig ar ymdrechion yr wrthblaid i sgorio pwyntiau gwleidyddol.
Rydw i wedi atodi’r darn o Hansard ynglŷn â beth y cytunais iddo. Nid yw hyn byth yn cael sylw mewn “cynigion mamolaeth a theisen afal”.
Os ydych chi’n dymuno darllen y ddadl gyfan, gallwch chi wneud hynny yma. Mae rhai o’r areithiau yn dda iawn…
https://hansard.parliament.uk/…/TestingOfNHSAndSocialCareSt…
BETH AM GYMRU?
Yn drydydd, mae’r bleidlais hon yn ymwneud â Lloegr. Fodd bynnag, mae’n werth nodi hyd yn oed yma yng Nghymru, lle mae Llywodraeth Cymru Llafur yn rhedeg y GIG, nid yw profi gweithwyr yn wythnosol yn cael ei wneud.
Pe bai Llafur yn meddwl mewn gwirionedd bod profi wythnosol yn syniad mor dda, yn sicr bydden nhw wedi sicrhau ei fod wedi cael ei wneud yng Nghymru.
Yn olaf, rydw i’n gwrthwynebu’r defnydd sinigaidd hwn o faterion pwysig neu bobl fregus, er mwyn defnyddio amser y gellid ei ddefnyddio yn adeiladol yn y Siambr a defnyddio Staff y GIG sy’n gweithio’n galed ac yn ddewr – y cwbl i gynhyrchu beirniadaeth fachog, wag sy’n hyrwyddo ofn a gofid.
Mae hynny’n bychanu pawb.