Climate change is one of the great challenges we face, and I recognise the importance and urgency of public debate on this issue. I also acknowledge the sobering conclusions of the Intergovernmental Panel on Climate Change’s special report on global warming published in 2018.
My commitments and pledges are to deliver the Conservative party manifesto on which I was elected in December 2019.
I am proud of the UK’s world-leading role in tackling climate change and the transition to Clean Growth, with the UK being the first country to legislate to eliminate our contribution to climate change by 2050, and the fastest in the G20 to cut emissions. Since 1990, the UK has cut emissions by more than 40 per cent while growing the economy by more than two thirds, and we are a world-leader in offshore wind.
I also note that this momentum continues, with the Government announcement of around £2 billion for new policies since setting the Net Zero targets and a new Prime Minister-chaired Cabinet Committee on Climate Change that has been set up to ensure all arms of Government are focussed on tackling this challenge. The UK will also continue to use its position as a global leader by hosting the UN Climate Change Summit in Glasgow in 2020 and will ask international partners to match the UK’s ambition.
At the same time, the ambitious Environment Bill is being introduced to protect and improve the environment for future generations, enshrining in law environmental principles and legally binding targets.
Ultimately, I am assured that under this Government’s leadership, action will be taken so that future generations will look back on climate change as a problem that was solved with the UK leading from the front, protecting our planet for centuries to come.
Newid yn yr hinsawdd yw un o’r heriau mawr sy’n ein hwynebu, ac rydw i’n cydnabod pwysigrwydd cael dadl gyhoeddus ar y mater a’r brys am hynny. Rydw i hefyd yn cydnabod casgliadau sobreiddiol adroddiad arbennig y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd ar gynhesu byd-eang, a gyhoeddwyd yn 2018.
Fy ymrwymiadau a’m haddewidion i yw gwireddu maniffesto’r blaid Geidwadol, y cefais fy ethol arno ym mis Rhagfyr 2019.
Rwy’n falch o rôl arloesol y DU o ran mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a’r newid tuag at Dwf Glân. Y DU yw'r wlad gyntaf i ddeddfu i ddileu ein cyfraniad at y newid yn yr hinsawdd erbyn 2050, a’r gyflymaf o blith y G20 i leihau allyriadau. Er 1990, mae’r DU wedi lleihau allyriadau dros 40 y cant tra’n tyfu’r economi fwy na dwy ran o dair, ac rydym yn arweinydd byd-eang o ran ynni gwynt ar y môr.
Sylwaf hefyd fod y momentwm hwn yn parhau, gyda chyhoeddiad y Llywodraeth y darperir oddeutu £2 biliwn ar gyfer polisïau newydd ers gosod y targedau Sero Net a sefydlu Pwyllgor newydd o’r Cabinet ar y Newid yn yr Hinsawdd, o dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog, i sicrhau bod pob rhan o’r Llywodraeth yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r her hon. Bydd y DU hefyd yn parhau i ddefnyddio ei safle fel arweinydd byd-eang drwy gynnal Uwchgynhadledd Newid yn yr Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow yn 2020, a bydd yn gofyn i bartneriaid rhyngwladol fod yr un mor uchelgeisiol â'r DU yn eu hymdrechion.
Ar yr un pryd, mae bil uchelgeisiol, Bil yr Amgylchedd, yn cael ei gyflwyno i ddiogelu a gwella’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan sefydlu egwyddorion amgylcheddol a thargedau sy’n rhwymo’n gyfreithiol yn y gyfraith.
Yn y pen draw, rwyf yn sicr y bydd camau’n cael eu cymryd, o dan arweiniad y Llywodraeth hon, fel y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn edrych yn ôl ar newid yn yr hinsawdd fel problem a gafodd ei datrys gyda’r DU yn arwain ar y blaen, gan amddiffyn ein planed am ganrifoedd.