Recreational access to water for the public is hugely important and I appreciate hearing from those who have contacted me about the “Clear Access, Clear Waters” campaign.
As a keen swimmer and runner, I am enthusiastic about promoting sport and recreation in the countryside and understand the positive benefits outdoor activities can have both physically and mentally. Aberconwy is a destination for many outdoor activities and I know how popular the River Conwy is for kayaking and water-based activities.
However, I am mindful of the rights of communities and those who live or work on land adjoining water, and of the need to maintain the environmental integrity of our rivers. The delicate balance of our rivers and inland waterways must be maintained for the enjoyment for all users and interests. I believe this is best achieved through consensus and by local agreement.
I support continuing to use locally agreed, voluntary agreements to increase river access for walkers, swimmers and non-powered craft. The rights of other users, as well as protection for wildlife and the environment, are important considerations. These sensitive issues can best be dealt with at a local level rather than through a one size fits all approach decided in Westminster. In Wales the natural environment is an area devolved to the Welsh Government and TAN 16 is the policy document dealing with sport, recreation and open spaces in Wales.
I also support the Governments' aim to make ours the first generation which leaves the environment in a better state than we found it. I am glad that the Government has improved more than 5,300 miles of rivers since 2010.This means our water environment is in the healthiest state for 25 years with otters, salmon, sea trout and other wildlife returning to many rivers for the first time since the industrial revolution.
As well as this, since the water industry was privatised, around £25 billion has been invested to reduce pollution from sewage, covering improvements in sewage treatment and in sewer overflows keeping our rivers clean.
Mae sicrhau mynediad i’r cyhoedd at ddŵr at ddibenion hamdden yn bwysig iawn ac rydw i’n falch o glywed gan y rheini sydd wedi cysylltu â mi am yr ymgyrch ‘Mynediad Clir, Dyfroedd Clir’.
Rydw i’n nofiwr ac yn rhedwr brwd, ac rydw i’n awyddus i hybu chwaraeon a hamdden yng nghefn gwlad a helpu pobl i ddeall y manteision corfforol a meddyliol sy’n gallu deillio o weithgareddau awyr agored. Mae Aberconwy yn gyrchfan ar gyfer nifer o weithgareddau awyr agored ac rydw i’n ymwybodol bod Afon Conwy yn boblogaidd iawn o ran caiacio a gweithgareddau dŵr.
Fodd bynnag, rydw i’n ymwybodol o hawliau cymunedau a’r rheini sy’n byw neu’n gweithio ar y tir ger y dŵr, a bod angen cynnal cyflwr amgylcheddol ein hafonydd. Mae’n rhaid cynnal cydbwysedd ein hafonydd a’n dyfrffyrdd mewndirol yn ofalus er budd pawb sy’n eu ddefnyddio ar gyfer pa bynnag ddiddordeb. Credaf mai’r ffordd orau o wneud hyn yn dod i gonsensws a chytundeb yn lleol.
Rydw i o blaid parhau i ddefnyddio cytundebau gwirfoddol y cytunwyd arnynt yn lleol i wella mynediad at afonydd i gerddwyr, nofwyr a chyfarpar di-bŵer. Mae’n bwysig ystyried defnyddwyr eraill, yn ogystal â gwarchod bywyd gwyllt a’r amgylchedd. Y ffordd orau o ddelio â’r materion sensitif hyn yw gwneud hynny ar lefel leol yn hytrach na defnyddio dull ‘un ateb i bawb’ sy’n cael ei bennu yn San Steffan. Yng Nghymru, mae’r amgylchedd naturiol yn faes sydd wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, a TAN 16 yw’r ddogfen polisi sy’n ymwneud â chwaraeon, hamdden a mannau agored yng Nghymru.
Rydw i hefyd yn cefnogi nod y Llywodraeth o sicrhau mai ni yw’r genhedlaeth gyntaf sy’n gadael yr amgylchedd mewn gwell cyflwr nag oedd hi cynt. Rydw i’n falch bod y Llywodraeth wedi gwella dros 5,300 milltir o afonydd ers 2010. Mae hyn yn golygu bod ein hamgylchedd dŵr ni yn y cyflwr gorau mae wedi bod ers 25 mlynedd, gyda dyfrgwn, eogiaid, brithyll môr a bywyd gwyllt arall yn dychwelyd i afonydd am y tro cyntaf ers y chwyldro diwydiannol.
Yn ogystal â hyn, ers i’r diwydiant dŵr gael ei roi mewn dwylo preifat, mae tua £25 biliwn wedi cael ei fuddsoddi i leihau llygredd yn sgil carthion, gan wneud gwelliannau o ran sut mae carthion yn cael eu trin a sut rydym yn delio â charthffosydd sy’n gorlifo, gan gadw ein hafonydd yn lân.