It is important for children to learn about animal welfare. So I was very pleased to learn that Ysgol Aberconwy have been selected to take part in 'The Great Debate'.
It is encouraging that schools have the freedom to teach topics such as animal welfare and responsible pet ownership as part of subjects such as Personal, Social, Health and Economic education and Citizenship. I am also pleased that maintained schools, academies and free schools are already required to teach primary pupils about the basic needs of animals for survival including appropriate habitat, food, water and air as part of the science curriculum. Schools should also teach pupils how to take care of animals taken from their local environment and the need to return them safely after study.
I was unable to attend the event last month, but I welcome all efforts to raise awareness of animal welfare in schools. It is also important that children learn that this extends to standards for safe and responsible animal husbandry and meat production in our own food chain."
Beyond the classroom we should be proud that the UK has some of the highest animal welfare standards in the world. I am pleased that the Prime Minister believes animal welfare is a priority and is keen to set ambitious goals. I welcome the Government’s commitment to introducing legislation which will further improve animal welfare, for example by increasing maximum sentences for animal cruelty from six months to five years' imprisonment. I am also pleased to report that a new law passed last year will ban the use of wild animals in travelling circuses.
Mae’n bwysig i blant ddysgu am les anifeiliaid. Felly roeddwn yn falch iawn o glywed bod Ysgol Aberconwy wedi cael ei dewis i gymryd rhan yn ‘Y Ddadl Fawr’.
Mae’n galonogol fod gan ysgolion ryddid i ddysgu materion fel lles anifeiliaid a bod yn gyfrifol pan fyddwch yn berchen ar anifeiliaid anwes, a hynny fel rhan o bynciau megis Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Economaidd ac Iechyd a Dinasyddiaeth. Rwy’n falch hefyd fod ysgolion a gynhelir, academïau ac ysgolion rhydd eisoes yn gorfod addysgu disgyblion cynradd am anghenion sylfaenol anifeiliaid er mwyn goroesi - yn cynnwys cynefin priodol, bwyd, dŵr ac aer - fel rhan o’r cwricwlwm gwyddoniaeth. Dylai ysgolion hefyd addysgu disgyblion sut i ofalu am anifeiliaid a gymerir o’u hamgylchedd lleol a’r angen i’w dychwelyd yn ddiogel ar ôl astudio.
Ni allwn fod yn y digwyddiad y mis diwethaf, ond rwy’n croesawu pob ymdrech i godi ymwybyddiaeth o les anifeiliaid mewn ysgolion. Mae’n bwysig hefyd fod plant yn dysgu bod hyn yn mynd ymhellach ac yn cwmpasu safonau ar gyfer hwsmonaeth anifeiliaid a chynhyrchu cig yn ddiogel ac yn gyfrifol yn ein cadwyn fwyd ni ein hunain.
Y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, dylem fod yn falch bod gan y DU rai o’r safonau lles anifeiliaid uchaf yn y byd. Rwy’n falch fod y Prif Weinidog yn credu bod lles anifeiliaid yn flaenoriaeth a’i fod yn awyddus i osod nodau uchelgeisiol. Rwy’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn gwella lles anifeiliaid ymhellach, er enghraifft drwy gynyddu’r dedfrydau trymaf am greulondeb i anifeiliaid o chwe mis i bum mlynedd o garchar. Rwyf hefyd yn falch o adrodd y bydd deddf newydd a basiwyd y llynedd yn gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol.