There is no place in this country for animal cruelty, and we must ensure that those who abuse animals are met with the full force of the law. I therefore welcome that the Animal Welfare (Sentencing) Bill has now been published in Parliament by Chris Loder MP, and will be backed by the Government. The new Bill will enable tougher prison sentences for the most serious perpetrators of animal cruelty, from the current maximum of six months to up to five years.
This increase in sentencing will send a clear message that this behaviour will not be tolerated. The maximum five-year sentence will become one of the toughest punishments in Europe, strengthening the UK’s position as a global leader on animal welfare.
I am aware that a public consultation found 70 per cent of people supported the proposals for tougher prison sentences. I am encouraged that the planned change in law means the courts will be able to take a tougher approach to cases such as dog fighting, abuse of puppies and kittens, or gross neglect of farm animals.
I welcome these increased maximum sentences which will act as a serious deterrent against cruelty and gross neglect in the future, and builds on recent positive action to protect animals, including plans to ban third party puppy and kitten sales and banning the use of wild animals in circuses.
Nid oes lle yn y wlad hon i greulondeb i anifeiliaid, a rhaid i ni sicrhau bod y rhai sy'n cam-drin anifeiliaid yn wynebu holl rym y gyfraith. Rwyf felly'n croesawu'r ffaith bod y Bil (Dedfrydu) Lles Anifeiliaid bellach wedi'i gyhoeddi yn y Senedd gan Chris Loder AS, ac y bydd yn cael ei gefnogi gan y Llywodraeth. Bydd y Bil newydd yn golygu y bydd dedfrydau llymach yn y carchar i'r rhai sy’n achosi’r creulondeb mwyaf i anifeiliaid, o'r uchafswm presennol o chwe mis hyd at bum mlynedd.
Bydd y cynnydd hwn o ran dedfryd yn anfon neges glir na fydd yr ymddygiad hwn yn cael ei oddef. Bydd uchafswm y ddedfryd o bum mlynedd yn dod yn un o'r cosbau llymaf yn Ewrop, gan gryfhau sefyllfa'r DU fel arweinydd byd-eang o ran lles anifeiliaid.
Rwyf yn ymwybodol bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi canfod bod 70 y cant o bobl yn cefnogi'r cynigion ar gyfer dedfrydau llymach o garchar. Mae'n galondid i mi fod y newid arfaethedig yn y gyfraith yn golygu y bydd y llysoedd yn gallu ymdrin yn llymach ag achosion fel ymladd cŵn, cam-drin cŵn a chathod bach, neu esgeulustod difrifol i anifeiliaid fferm.
Rwy'n croesawu'r cynnydd yn uchafswm y dedfrydau hyn. Bydd yn gweithredu fel rhwystr mawr yn erbyn creulondeb ac esgeulustod difrifol yn y dyfodol, ac yn adeiladu ar gamau cadarnhaol diweddar i ddiogelu anifeiliaid, gan gynnwys cynlluniau i wahardd gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti a gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.